Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 23 Tachwedd 2020
Amser:
09.00 -
11.49
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6463
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AS (Cadeirydd) Gareth Bennett AS Angela Burns AS Vikki Howells AS Delyth Jewell AS Rhianon Passmore AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Shan Morgan, Llywodraeth Cymru Gawain Evans, Llywodraeth Cymru David Richards, Llywodraeth Cymru Andrew Slade, Llywodraeth Cymru |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Alison Butler Richard Harries Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Craffu ar Gyfrifon 2019-20: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
2.1 Bu’r Aelodau yn holi’r Ysgrifennydd Parhaol ar Gyfrifon Cyfunol ac Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Gymru 2019-20.
2.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol y byddai’n:
· Anfon copi o’r papur asesu technegol a baratowyd ar gyfer Trysorlys Ei Mawrhydi, ac wedi hynny i’w ystyried gan y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol (FRAB) ynghylch y weithdrefn ar gyfer ymdrin â grantiau mewn amgylchiadau eithriadol.
· Rhoi trosolwg o nifer a natur unrhyw gontractau sy’n bodoli, os o gwbl, rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer gwasanaethau sy’n gysylltiedig â Covid-19.
· Cadarnhau a oedd contract ar waith gyda Lighthouse Labs, ac os felly, a oedd yn cynnwys cymalau ar gyfer amseroedd cyflawni, ac a fyddai perfformiad gwael wedi bod yn gyfystyr â thorri ar y contract.
· Cadarnhau a oes gan Lywodraeth Cymru gontract neu gytundeb ysgrifenedig arall gyda Llywodraeth y DU ar gyfer cyrchu a darparu’r brechlyn Covid-19.
· Rhoi gwybodaeth ychwanegol am amseriad disgwyliedig derbyniadau rhaglenni’r UE.
· Darparu sail resymegol o ran sut mae model yr Adran Addysg, a ddefnyddir i gyfrifo dileu benthyciadau myfyrwyr, wedi’i addasu i’w ddefnyddio yng Nghymru.
· Cadarnhau faint o log oedd yn daladwy ar y ffi warant ynghyd â’r costau cyfreithiol cysylltiedig o ran dileu’r prosiect Cylchffordd Cymru.
· Darparu tabl sy’n rhoi manylion y swm a dalwyd am dir ac adeiladau, a’r swm y cawsant eu gwerthu amdano wedi hynny, yn dilyn y cyhoeddiad na fyddai cynllun coridor yr M4 yn mynd yn ei flaen. Bydd y pris prynu hefyd yn dangos y pris malltod a’r gwir bris prisio.
2.3 Cytunodd Andrew Slade i gynnwys sylwebaeth ynghylch y canfyddiad ychwanegol y cytunwyd arno ar gyfer y Ganolfan Confensiwn Rhyngwladol yn ei lythyr ar gyllid busnesau, sy’n cael ei baratoi ar gyfer y Pwyllgor ar hyn o bryd.
3 Papur(au) i’w nodi
3.1 Nodwyd y papur.
3a Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW): Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (11 Tachwedd 2020)
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Craffu ar Gyfrifon 2019-20: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. Bydd y Pwyllgor yn parhau â’i waith craffu ar Gyfrifon Cyfunol ac Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Gymru 2019-20 ar 7 Rhagfyr 2020.
6 Blaenraglen waith: Blaenraglen Waith ar gyfer y gwanwyn 2021
6.1 Nododd yr Aelodau y flaenraglen waith ar gyfer y gwanwyn 2021.